Rydw i yma i dy gefnogi gyda empathi, dealltwriaeth a dull unigol sydd wedi ei deilwra i dy anghenion personol.
Mwy amdanf i a fy ngwaith fel asesydd annibynol isod.
Ffion Eleri Rhisiart
Gweithiwr Cymdeithasol profiadol wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a BASW
2017 - Presenol
Arweinydd Ymarfer Gwasanaethau Plant a'u Teuluoedd, Cyngor Sir Ynys Mon
2010 - 2015
Uwch Weithiwr Cymdeithasol Tim Plant a'u Teuluoedd, Cyngor Sir Gwynedd
2015 - 2017
Uwch Swyddog Diogelu Addysg, Cyngor Sir Gwynedd
2003 - 2010
Gweithiwr Cymdeithasol Tim Plant a'u Teuluoedd, Cyngor Sir Gwynedd
'Rwyf wedi gweithio yn y maes diogelu o fewn Awdurdodau Lleol am dros ugain mlynedd ers cymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol yn 2003. Mae gennyf brofiad helaeth mewn diogelu (gwasanaethau plant ac addysg), amddiffyn plant, asesiadau, gwaith llys (preifat a gofal), ymyrraeth mewn argyfwng, Plant Mewn Gofal a mabwysiadu. Mae hyn yn cynnwys asesiadau risg, rhiantu, PAMS, Aim, RAMP, SERAF, hyfywedd, maethu, gwarcheidiaeth arbenning ac asesiadau ymlyniad.
'Rwyf wedi cwblhau asesiadau mewn achosion sy'n cynnwys ffactorau risg mewn ystod eang o sefyllfaoedd, megis:
'Rwyf yn Athrawes Ymarfer profiadol ac yn Hyfforddwr Diogelu gyda profiad o gwblhau ymchwiladau annibynol ac ymchwiliadau mewnol yng nghyswllt pobl proffesiynol. Rydw i wedi fy hyfforddi mewn JIT ac ABE.
Mae gen i brofiad eang mewn hyfforddi a mentora ac yn cynnig sesiynau unigol i dy gefnogi yn dy siwrnai personal ac/neu proffesiynol.
Sgiliau
Rydw i'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.
© Copyright. All rights reserved.
We need your consent to load the translations
We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.